Amdanom Ni WoW

Darparu cam ymlaen i ddysgwyr ifanc, gan eu galluogi i ennill sgiliau bywyd gwerthfawr o ran gyrfa.

O weithio gyda phlant hŷn, â llawer ohonynt heb yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lunio penderfyniadau deallus a realistig o ran gyrfa, daeth yn amlwg fod angen i sylfeini cynllunio gyrfa fod yn eu lle yn llawer cynt.

Gyda llai o Wasanaethau Gyrfa ar gael, mae addysgu yn y maes gyrfa yn debyg o fod yn syrthio fwy a mwy i athrawon, sydd yn brin o amser ac adnoddau. Mae adroddiadau diweddar gan Donaldson (Cymru) a Gatsby (Lloegr) hefyd yn tanlinellu’r cyswllt rhwng dysgu arbrofol a lles economaidd a chymdeithasol. 

Datblygwyd WoW i dargedu dysgwyr wrth iddynt bontio o’r cynradd i’r uwchradd ond wedyn mae wedi ehangu ei gylch gwaith i gyrraedd rhai oed 4 i 19. Mae’r project yn darparu cam ymlaen i ddysgwyr ifanc, gan eu galluogi i ennill sgiliau bywyd gwerthfawr o ran gyrfa mewn awyrgylch hwyliog a rhyngweithiol.  Mae WoW yn ategu sawl adran arall o’r cwricwlwm, yn arbennig llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae’r project hefyd yn darparu ffordd i alluogi plant i ennill sgiliau cymdeithasol ac emosiynol ehangach drwy gysylltu ag agweddau allweddol o’r cwricwlwm.

Manteision WoW

Sut mae’n project yn anelu at elwa dysgwyr, ysgolion a chymunedau.

Mae manteision i
Ddysgwyr yn cynnwys:

Datblygu sgiliau allweddol, gwell llythrennedd, TGCh a rhifedd, mwy o ymwybyddiaeth o ddewisiadau wedi’r maes addysg. Yn fwyaf pwysig, dyheadau uwch.

Mae manteision i
Ysgolion yn cynnwys:

Ymyriad effeithiol ar gyfer micro-garfanau allweddol, mwy o ymwneud â’r gymuned a rhwydweithiau, cyfleoedd datblygu proffesiynol aelodau’r staff.

Mae manteision i
Gymunedau yn cynnwys:

Mwy o gyfle i rieni gael eu cynnwys mewn addysg, dyheadau uwch gan ddisgyblion a chyd-ddealltwriaeth rhwng busnes ac addysg yn y tymor byr i ganolig. Mae manteision tymor hir yn cynnwys mynd i’r afael â diweithdra.

Cysylltiadau Busnes

Busnesau, Cwmnïau a Sefydliadau sy’n gweithio gyda WoW.

Tystebau