Cyfarfod y Tîm

Meg 1

Dyma Meg

Aelod o Dîm Project WoW.

Helo, Meg ydw i ac rwy’n 18 oed. Ar hyn o bryd rwy’n astudio at fy lefel A ac yn bwriadu astudio Seicoleg flwyddyn nesaf. Rwyf wedi gwirfoddoli gyda Phroject WoW ers 4 blynedd. I ddechrau, gwirfoddolais y tu ôl i’r llenni fel petai, yn helpu cynllunio a threfnu digwyddiadau yn ogystal â chysylltu â’r gymuned leol a chwmnïau lleol i’w cynnwys yn y project. Yna, dechreuais wirfoddoli yn yr ysgolion, gan helpu i gyflwyno sesiynau i ystod eang o ddisgyblion. Mae gwirfoddoli gyda Phroject WoW wedi fy helpu i ennill hyder a sgiliau rhyngbersonol. Teimlaf yn lwcus gallu cyfrannu i addysg plant a phobl ifanc yn y project buddiol hwn. Mae Project WoW wedi f’ysbrydoli i fod yn Seicolegydd Addysg er mwyn gallu helpu pobl ifanc a allai fod yn wynebu heriau i gael yr addysg orau bosibl.