Cyfarfod y Tîm

Jenna 1

Dyma Jenna

Aelod o Dîm Project WoW.

Ymunais â WoW wedi cyfarfod Sue pan oeddwn yn gwirfoddoli ar broject mentora. Soniodd Sue am y gwaith y mae WoW yn ei wneud ar gyfer pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru ac roeddwn yn awyddus i fod yn rhan ohono. Wedi’r hyfforddiant WoW, dechreuais addysgu gweithdai yn Ebrill 2019. Mae gweithio i WoW yn brofiad gwerthfawr, gan mod i wir yn teimlo mod i’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc drwy gyflwyno syniad dewisiadau gyrfa i’r dyfodol iddynt o oed ifanc; byddwn wedi gweld WoW yn hynod werthfawr pan oeddwn yn ifanc gan nad oeddwn yn siŵr iawn beth i’w wneud fel gyrfa. Gweld y gwahaniaeth yn agweddau’r bobl ifanc y gweithiwn gyda hwy yn WoW, o’r adeg y maen nhw’n ansicr o’r hyn a allai fod yn eu dyfodol, o gymharu â diwedd gweithdai WoW pan maen nhw’n hyderus ac yn canolbwyntio ar eu cynlluniau i’r dyfodol yw’r hyn sy’n gwneud y profiad o weithio gyda WoW mor werthfawr i mi.