Cyfarfod y Tîm

Sue Prior

Dyma Sue

Sefydlydd Project WoW.

Helo, Sue ydw i. Sefydlais Broject WoW yn 2015 wedi gweithio am dros 20 mlynedd fel Cynghorydd Gyrfa yn Lloegr a Chymru. Rwy’n credu’n angerddol mewn Addysg Gyrfa. Credaf y dylid cyflwyno o oed cynnar a dyna pam y penderfynais sefydlu WoW. Yn ogystal â bod yn Gynghorydd Gyrfa, rwyf hefyd yn Ymarferwr Rhaglennu Ieithyddol Nerfol (NLP) a’m gweledigaeth yw i WoW ysbrydoli a symbylu dysgwyr i feithrin yr hyder i afael mewn cyfleoedd, i gredu ynddyn nhw eu hunain ac yn y pen draw, i gyrraedd eu potensial llawn. Credaf fod gan bawb rywbeth arbennig i’w gynnig ac mae pawb yn haeddu byw bywyd iach a hapus. Ar wahân i’m gwaith gyda WoW, mae fy nheulu’n fy nghadw’n brysur. I ymlacio, fy ffefryn pennaf yw crwydro ar hyd traeth â thywod rhwng bodiau ’nhraed.