Cyfarfod y Tîm

Brent featured1

Dyma Brent

Aelod o Dîm Project WoW.

Deuthum yn rhan o Broject WoW wedi ei weld yn cael ei gyflwyno i ddosbarth Blwyddyn 6 a chanfod yr effaith gadarnhaol, ryfeddol a gafodd ar ddysgu a lles plant ifanc. Ers cwblhau hyfforddiant WoW, rwyf wedi cyflwyno sesiynau WoW i blant a phobl ifanc o Gyfnod Allweddol 2 – Cyfnod Allweddol 5 ar draws Gogledd Cymru a Chaer. Rwy’n synnu o hyd gymaint y mae bod yn rhan o’r sesiynau yn f’ysbrydoli. Mae’n gymaint o hwyl gweld y plant a’r bobl ifanc yn ennill sgiliau newydd a hyder, yn mwynhau dysgu beth allai fod yn eu dyfodol a chydweithio mewn grwpiau gwahanol.