Helo, Owen ydw i ac ymunais â thîm Project WoW yn 2018 pan welais sesiynau WoW yn cael eu cyflwyno mewn ysgol gynradd yr oeddwn yn gweithio ynddi. Roeddwn wedi rhyfeddu at y ffordd y gafaelodd y dosbarth ar unwaith yn y sesiynau! Roedden nhw’n eiddgar i’w cysylltu â’u holl ddiddordebau personal eu hunain. Roeddwn hefyd ar fin dechrau ar hyfforddiant athro BA SAC i addysgu plant oed cynradd ac ar unwaith gwelais fanteision ymuno â thîm WoW. Mae yna rywbeth am weithio gyda phlant; mae eu gweld yn cydweithio a chyflawni wedi f’arwain at gyflwyno sesiynau WoW ers hynny. Mae bod yn rhan o’r tîm wedi caniatáu i mi ddatblygu f’ymarfer dysgu ymhellach rhwng lleoliadau prifysgol a gweithredu’r hyn a ddysgais. Yn ogystal, drwy fynd i wahanol ysgolion, rwyf wedi hel rhai syniadau gwych ar gyfer fy nosbarth fy hun!