Cyfarfod y Tîm

Dyma Olivia

Aelod o Dîm Project WoW.

Helo ’na! Fy enw i yw Olivia a dechreuais weithio gyda Phroject WoW yn 2021! Rwyf hefyd yn astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl, felly yn y dyfodol hoffwn fod yn athrawes ysgol uwchradd yn addysgu Seicoleg a Chymraeg. Rwy’n hoff iawn o’r ddau bwnc a chredaf y byddai’n wych petawn i yn y dyfodol yn gallu cyfuno’r ddau. Mae gen i brofiad blaenorol mewn ysgolion fel tiwtor YipiYap ac mewn gweithio yn Ysgol Treffynnon am flwyddyn ysgol gyfan. Bûm yn tiwtora Cymraeg, Mathemateg a pheth Ffrangeg hefyd, gan fwynhau bob eiliad o ’mhrofiad yno. Ers hynny, mae helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a rhannu gwybodaeth gyda hwy wedi bod yn arbennig o bwysig i mi, a dyna pam rwy’n rhan o dîm WoW heddiw!