Tystebau

Darllenwch yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am WoW

Hoffwn ddiolch i chi a’r tîm am y sesiynau WoW ar-lein yr wythnos hon. Aeth popeth mor dda - fe fuoch yn wych yn cysylltu o flaen llaw, yn ystod y sesiynau ac wedyn. Rydym wedi gwerthfawrogi’r adnoddau yn fawr.

Rydym wedi mwynhau’r sesiynau’n fawr ac rwyf yn eu hargymell i ysgolion eraill. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n hysgol, boed hynny’n rhithiol neu wyneb yn wyneb!

Roedd y sesiynau yn hwyliog, yn llawn gwybodaeth, yn ddiddorol ac fe wnaethon nhw danio diddordeb yn ein disgyblion i ddysgu mwy am eu ‘swyddi delfrydol’. Yn ystod yr wythnos, ar yr iard chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth, bu’r plant yn trafod eu ‘swyddi’, cyflogau ac a yw’n werth prynu’r Range Rover hwnnw! Mae wedi bod yn wych gweld y plant yn datblygu eu gwybodaeth o fyd gwaith a heb amheuaeth, mae wedi tanio diddordeb yn y disgyblion i ddysgu mwy am fywyd wedi’r ysgol.

Diolch gymaint am sesiwn heddiw. Fe wnaeth y plant wir ddechrau meddwl am eu dyfodol a’r modd y gallan nhw gymryd rheolaeth o hynny. Roeddwn eisiau i chi wybod am beth adborth a ddaeth oddi wrth un o’r rhieni am y gwaith cartref. Dywedodd un fam ag efeilliaid yn fy nosbarth pa mor ddiddorol oedd y gwaith cartref. Dywedodd hefyd ei fod yn waith cartref yr oedd ei phlant yn ysu i’w orffen er eu bod yn amharod i wneud hynny fel arfer. Dywedodd ei bod o’r farn ei bod yn ffordd dda iawn o ddechrau sgwrs am swyddi a gwaith.

Diolch am y project Wow a ddaeth atom eleni. Mae’r canlyniadau wedi bod yn amlwg. Wedi siarad â Blwyddyn 5 am y project, mae’r canlyniadau’n glir iawn. Yn awr mae gennym rai 9-10 oed sydd wedi siarad â’u teuluoedd am addysg yn y dyfodol ac addysg bellach, o ganlyniad i wybod pa lwybrau sy’n angenrheidiol i gael graddau penodol ac yn y blaen. Nid yn unig yr agorodd lygaid y disgyblion i’r hyn sydd ar gael (roedd y staff wedi synnu at yr holl bosibiliadau) ond roedd y cyfweliad 1:1 gyda phobl o broffesiynau penodol yn hynod werthfawr. Gobeithiwn y gallwn barhau â’r project yn flynyddol a hefyd y gallwn ddatblygu syniadau ar y cyd â chi gan ein bod yn gweld effaith arbennig menter WoW.

Diolch yn fawr am broject WoW, mae’r plant wedi gwir fwynhau’r profiad ac wedi elwa gymaint arno. Drwy eich project mae merch 10 oed eisoes wedi dechrau gweithio ar ei gyrfa i’r dyfodol. Yn un o’ch sesiynau, bu’n ymchwilio i’w hoff swydd, sef athletwraig. Datblygodd syniad clir o’r hyn yr oedd angen iddi wneud ac wedi sesiwn WoW ymunodd â chlwb athletau yn Wrecsam. Mae ar ei ffordd i gyflawni ei nod o redeg y pellter canol a hir dros Gymru. Unwaith eto, diolch yn fawr iawn."

Mae cysylltiadau da â’r gymuned wedi cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth yn yr ysgol. Mae menter World of Work, pan mae disgyblion yn cyfarfod â phobl o wahanol alwedigaethau, megis meddygon, rhai sy’n trin gwallt a milwyr, yn enghraifft o’r modd y mae partneriaethau gyda’r gymuned yn elw i’r disgyblion.

Mae WoW (Menter) yn gyfle gwych i blant ddysgu sgiliau menter wrth gymhwyso’u sgiliau llythrennedd a rhifedd ac roedden nhw’n edrych ymlaen at y sesiynau bob wythnos. Bu’r holl blant yn greadigol a llunio’u busnes eu hunain. Diolch yn fawr am y cyfle hwn ar gyfer ein plant, maen nhw wedi mwynhau bob munud ac yn eiddgar iawn i werthu eu cynnyrch wythnos nesaf. Mi fyddwn yn dweud bod WoW yn llwyddiant ar gyfer fy nosbarth i.

Roedd y gweithgaredd SiwperArwr yn wych ac fe wnaeth pawb fwynhau’r gwaith ymarferol. Roedd y trin gwallt yn arbennig yn boblogaidd iawn ynghyd â’r gwaith ar y gliniadur hefyd. Anelwyd lefel y gwaith yn dda ac fe gafodd ei wahaniaethu i ateb gofynion yr holl ddisgyblion. Roedd tîm WoW yn wirioneddol wych a sefydlwyd perthynas dda yn gyflym iawn.

Ysbrydoledig iawn. Cysyniad gwych. Biti nad oedd Project WoW ar gael pan oeddwn i yn yr ysgol.

Mae 7B wedi llwyr fwynhau eu dysgu am fyd gwaith gyda Bethan a Sue o Broject WoW. Diolch yn fawr am drefnu’r gweithdai defnyddiol ac ysbrydoledig hyn ar ein cyfer.

Roedd y sesiynau Cysylltiadau Cymunedol dan nawdd WoW yn ddiddorol ac yn hwyl. Roedd tystio i’r plant dyfu mewn hyder wrth iddyn nhw ofyn cwestiynau treiddgar yn wych. Profiad hynod werthfawr i’r plant a’r cyflogwyr ynghyd â ffordd ardderchog o greu cysylltiadau ag addysg busnes.

Rwyf wedi mwynhau cymryd rhan ym Mhroject WoW ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r Ysgol Uwchradd. Gwn y bydd yn rhaid i mi weithio’n galed a mynd i goleg a phrifysgol os wyf am fod yn wyddonydd neu ddyfeisiwr.

Fe wnes i fwynhau WoW (Menter) yn fawr am ein bod ni wedi gallu gwneud pethau a dysgu pethau hollol newydd i ni.

Mae cysylltiadau da â’r gymuned wedi cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth yn yr ysgol. Mae menter World of Work, pan mae disgyblion yn cyfarfod â phobl o wahanol alwedigaethau, megis meddygon, rhai sy’n trin gwallt a milwyr, yn enghraifft o’r modd y mae partneriaethau gyda’r gymuned yn elw i’r disgyblion.