Amdanom Ni WoW
Darparu cam ymlaen i ddysgwyr ifanc, gan eu galluogi i ennill sgiliau bywyd gwerthfawr o ran gyrfa.
O weithio gyda phlant hŷn, â llawer ohonynt heb yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i lunio penderfyniadau deallus a realistig o ran gyrfa, daeth yn amlwg fod angen i sylfeini cynllunio gyrfa fod yn eu lle yn llawer cynt.
Gyda llai o Wasanaethau Gyrfa ar gael, mae addysgu yn y maes gyrfa yn debyg o fod yn syrthio fwy a mwy i athrawon, sydd yn brin o amser ac adnoddau. Mae adroddiadau diweddar gan Donaldson (Cymru) a Gatsby (Lloegr) hefyd yn tanlinellu’r cyswllt rhwng dysgu arbrofol a lles economaidd a chymdeithasol.
Datblygwyd WoW i dargedu dysgwyr wrth iddynt bontio o’r cynradd i’r uwchradd ond wedyn mae wedi ehangu ei gylch gwaith i gyrraedd rhai oed 4 i 19. Mae’r project yn darparu cam ymlaen i ddysgwyr ifanc, gan eu galluogi i ennill sgiliau bywyd gwerthfawr o ran gyrfa mewn awyrgylch hwyliog a rhyngweithiol. Mae WoW yn ategu sawl adran arall o’r cwricwlwm, yn arbennig llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae’r project hefyd yn darparu ffordd i alluogi plant i ennill sgiliau cymdeithasol ac emosiynol ehangach drwy gysylltu ag agweddau allweddol o’r cwricwlwm.
Manteision WoW
Sut mae’n project yn anelu at elwa dysgwyr, ysgolion a chymunedau.
Mae manteision i
Ddysgwyr yn cynnwys:
Datblygu sgiliau allweddol, gwell llythrennedd, TGCh a rhifedd, mwy o ymwybyddiaeth o ddewisiadau wedi’r maes addysg. Yn fwyaf pwysig, dyheadau uwch.
Mae manteision i
Ysgolion yn cynnwys:
Ymyriad effeithiol ar gyfer micro-garfanau allweddol, mwy o ymwneud â’r gymuned a rhwydweithiau, cyfleoedd datblygu proffesiynol aelodau’r staff.
Mae manteision i
Gymunedau yn cynnwys:
Mwy o gyfle i rieni gael eu cynnwys mewn addysg, dyheadau uwch gan ddisgyblion a chyd-ddealltwriaeth rhwng busnes ac addysg yn y tymor byr i ganolig. Mae manteision tymor hir yn cynnwys mynd i’r afael â diweithdra.
Cwrdd â’r Tîm
Cyfarfod â'n tîm o addysgwyr ymroddedig.
Cysylltiadau Busnes
Busnesau, Cwmnïau a Sefydliadau sy’n gweithio gyda WoW.





- Ambulance Service
- Awakening Minds
- Bangor University
- BCHUB
- British Airways
- Business Wales
- Celtic Finance
- CITB
- CobraLife
- Coleg Cambria
- Colwyn Bay Zoo
- Debra Eeek
- Engie
- Fire Service
- Food bankLitegreen
- Halo Make Up
- Jacksons Fire & Security
- Kristina Banholzer Photojournalist
- NatWest
- North West Social
- NSPCC
- Police
- Paul Kudray
- Pat's Coaches
- PVW (Pure Vegetable Wellbeing)
- Ras Designs
- Rays Whippy Ice Cream
- Reaching Wider North & Mid Wales Partnership
- Safechoice Packaging
- Tadmark
- Tape Community Group
- Techstockers
- Tesco
- Toyota
- Treetops Party Cafe
- Voel Coaches
- Web Studio
- Widening Access
- Wild Elements
- Wynne Construction







