Helo, Jill ydw i ac ymunais â WoW yn 2019 pan gynigiwyd y cyfle gwych hwn i mi gan Sue. Athrawes sgiliau uwch ac arholwraig TGAU ydw i, â 35 mlynedd o uwch brofiad mewn dysgu yn y sector uwchradd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn mentora ac yn hyfforddi athrawon ynghyd â chyflwyno hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer Bwrdd Arholi. Rwyf wedi gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y sector cynradd mewn amryw o brojectau ar y cyd ar draws fy awdurdod addysg lleol. Rwyf wedi dal sawl swyddogaeth amrywiol ac wedi bod yn Bennaeth Cyfadran Astudiaethau’r Byd, ond un o’r rhai mwyaf boddhaus oedd bod yn Bennaeth Addysg Gyrfa, Arweiniad a Menter. Rwyf wedi gweld y modd y mae addysg gyrfa ac arweiniad da yn gallu symbylu ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial a’r effaith y gall hyn gael ar eu cyrhaeddiad yn yr ysgol. Mae Project WoW yn casglu hyn i gyd at ei gilydd ac yn meithrin myfyrwyr gan roi iddyn nhw weledigaeth o’r hyn y gallant ei gyflawni yn y dyfodol. Yn ddiweddar, ymddeolais yn gynnar er mwyn canolbwyntio’n llawn amser ar fy ngwaith gyda Phroject WoW, sy’n gwbl ysbrydoledig i mi a lle rwyf yn teimlo y gallaf fod yn rhan o rywbeth sydd â’r grym i newid myfyrwyr yn y ffordd fwyaf rhyfeddol.