Gweithio gydag Ysgolion Cynradd i hybu hunan-ymwybyddiaeth dysgwyr ac ymwybyddiaeth o gyfle am fyd gwaith. Mae dysgwyr yn cael eu helpu i ddeall gwybodaeth sylfaenol am swyddi, gyrfaoedd a llwybrau addysgol. Mae’r sgiliau a enillir yn y sesiynau hyn yn cefnogi pontio i’r Ysgol Uwchradd ac maent yn cysylltu â’r cwricwlwm newydd. Mae pob un o’n sesiynau wedi’u gwahaniaethu a gellir eu cyflwyno ar hyn o bryd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae’r uchod i gyd yn cefnogi pontio a bydd rhai sesiynau’n cael eu cefnogi drwy ein cysylltiadau gwych â sefydliadau Cymunedol a Busnes.
Mae cynnwys rhiant/gofalwr/teulu wedi’i adeiladu i’r project drwy ‘waith cartref’, cymryd rhan mewn sesiynau a/neu drwy’r Pecynnau Dysgu yn y Cartref.
Ceisia WoW sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i gael mynediad cyfartal ac felly un cynhwysol i’r farchnad lafur.
![]()
Introducing children and young people to the world of work using a range of fun interactive group sessions.