Helo, Karen Kirkland ydw i: athrawes, cyfansoddwraig, cerddor ac ymgynghorydd addysg. Rwy’n cyfansoddi cerddoriaeth yn benodol ar gyfer projectau addysgol a masnachol. Rwy’n arbenigo mewn cyfansoddi canu ar draws y cwricwlwm ac adnoddau offerynnol ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd. Fe wnes i gyfarfod Sue yn 2015 a chefais gyflwyniad i Broject WoW pan welsom fod gennym weledigaeth yn gyffredin i ni’n dwy. Teimlais fod cysyniad WoW a brwdfrydedd Sue drosto yn f’ysbrydoli ac felly, cynigiais gyfansoddi cân. Mae ein cyfeillgarwch a’n perthynas waith yn dal i ysbrydoli ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Sue a WoW yn y dyfodol agos.
Beth am gael golwg ar fy ngwefan i wybod mwy amdanaf fi a’m cerddoriaeth: www.karenkirkland.co.uk
![]()
Introducing children and young people to the world of work using a range of fun interactive group sessions.